Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (129)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Dyraniadau Cyfalaf (30 munud) Dogfen
Ategol
|
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (30 munud) |
5. Dadl: Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus (60 munud) NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig: Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. |
6. Dadl: Adolygiad yr Athro McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru (60 munud) NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi; 2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro McClelland; 3. Yn cydnabod bod angen: a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu. Gellir gweld Adolygiad yr Athro McClelland o Wasanaethau
Ambiwlans Cymru drwy’r ddolen ganlynol: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi â phryder: a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd, Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd; b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf; c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol; d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu rhyddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt gyrraedd erioed wedi'i gyflawni; e) mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 awr yn aros y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf; f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le: ‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’ Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu; Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ym mis Mawrth 2013 mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd ymateb o fewn wyth munud, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010 ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd am ddeg mis yn olynol. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n llawn. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a staff. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans effeithlon a chadarn. Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 8 Mai 2013